Mae Nina’s Cake Cabin wedi bod ar y rhaglen Heno ar S4C hefyd.
Trodd yr hyn a ddechreuodd fel hobi yn fusnes llawn amser tra’r oedd adref yn gwella ar ôl llawdriniaeth mawr yn ystod ei hamser gyda Heddlu Gogledd Cymru.
Treuliwyd cyfnod adfer Nina yn astudio prosectiau teisennau a thechnegau addurno mewn cylchgronau ac ar-lein ac yn rhoi cynnig ar syniadau ei hun, erbyn diwedd ei hadferiad, ‘roedd archebion yn dod I fewn un ar ôl y llall!
Ei nod yw gallu creu teisan eich breuddwydion, gan ddefnyddio dim ond y cynhwysion mwyaf ffres ac o’r ansawdd uchaf i sicrhau fod eich teisan yn blasu cyn gystal ag y mae’n edrach.
Y Tim Perffaith
Yn dilyn ei ymddeoliad, ymunodd Mike, gwr Nina a’r busnes yn llawn amser ar ol gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru am 30 blynedd. Mike sydd yn gyfrifol am y pobi, torri, llenwi a gorchuddio’r teisennau.
Ymhen dim o amser, yn enwedig adeg Covid, canfuwyd fod Mike yn grefftwr medrus a pherffeithydd yn y byd pobi teisennau. Gan ei fod yn drwyawdl mewn peirianneg, buan iawn daeth i feistrioli’r grefft. Mae’n rhaid i bopeth fel y mesuriadau ac yn y blaen fod yn berffaith.
Mae’n alluog iawn, ac yn hyderus y gall hefyd ddysgu y grefft i eraill sy’n awyddus i ddysgu rhai o’r sgiliau.
Gyda’i gilydd mae Nina a Mike yn gwneud y tim perffaith!
Mae ei gwaith yn cael ei gydnabod a’i barchu’n fawr ac os ydych chi’n byw yn Ynys Môn a wedi cystadlu mewn cystadleuaeth pobi, mae’n debyg bod Nina wedi blasu’ch teisan! Mae hi’n mynychu cystadlaethau pobi lleol ar yr ynys yn rheolaidd fel beirniad uchel ei pharch.
Yn ogystal â dylunio a phobi teisennau hardd, mae Nina hefyd yn dysgu dosbarthiadau crefft siwgr o’r Cabin.
Hoffech chi ddysgu gyda Nina?
Nod Nina yw i’w holl fyfyrwyr gael y diwrnod mwyaf hamddenol a hwyliog, mewn lleoliad gwych gan ddysgu’r sgiliau gorau sydd gan y byd teisennau i’w gynnig.
Gall y Cabin eistedd hyd at 10 o fyfyrwyr yn gyffyrddus ar y tro a mae pob dosbarth yn addas ar gyfer dechreuwr llwyr neu rhywun sydd eisiau perffeithio ei sgiliau cyfredol.
Mae hi’n mwynhau rhannu ei chariad at addurno teisennau a gwybodaeth yn y dosbarthiadau hyn wedi ei leoli mewn safle syfrdanol, preifat a hamddenol gyda digon o le parcio.
Mae gwersi preifat 1:1 neu 1:2 ar gael hefyd os yn dymuno.
Mae ei gwaith wedi cael ei gydnabod mewn nifer o erthyglau gan gynnwys: Cake Masters Magazine, Cake Craft and Decoration, Cake Geek Magazine, Cake Central Magazine a Wedding Cakes and Sugar Flowers.